Ailgylchu’ch gemwaith – yr eitha’ mewn steil foesegol

Mae ‘di bod yn sbel ers i mi flogio ddiwethaf ond gobeithio’ch bod chi ‘di bod yn mwynhau cadw i fyny â phopeth Liri ar Facebook ac Instagram. Wi’n siwr eich bod chi ‘di sylwi fy mod i ‘di newid cyfeiriad ychydig – nid yn unig ydw i ‘di lansio fy nghasgliad aur cyntaf, ond ‘w i nawr hefyd yn ail-ddylunio gemwaith ry’ chi ‘di etifeddu, fel y gallwch ei wisgo, yn hytrach na’i gadael i eistedd mewn drôr. ‘W i mor falch o hyn i gyd oherwydd nid yn unig gallaf nawr ddod ag aur i bawb sy’n hoff o aur (rwy’n gwybod bod yn well gan lawer ohonoch chi aur nag arian), ond gallwch chi hefyd anadlu bywyd newydd i ddarnau roeddech chi’n meddwl na fyddech chi byth yn eu gwisgo.

Nid yn unig ydych chi’n cael gemwaith hyfryd ond gallwch nawr fwynhau ychwanegu dimensiwn moesegol at prynu’ch gemwaith. Mae cymaint ohonoch wedi dweud wrthaf fod ailgylchu metelau gwerthfawr yn bwysig i chi, ac rwy’n falch o allu sicrhau gallwch chi siopa’ch gemwaith gyda thawelwch meddwl. Felly beth sydd mor dda am ailgylchu / ail-ddylunio gemwaith? Beth y’ chi’n cael mewn gwirionedd wrth ailgylchu metelau a gemwaith gwerthfawr? Gadewch i ni weld.

Yr un ansawdd

Pan fyddwn yn prynu rhai cynhyrchion wedi’u hailgylchu, ‘dyw’r ansawdd ddim bob amser yr un fath â chynhyrchion ‘newydd’ nag yw? Rwy’n meddwl yn benodol am bapur toiled. Mae ‘di gwella, ond eto i gyd …. mae ‘na rhywbeth sy’ jyst ddim yn grêt amdani. S’gennych chi ddim y broblem hwn gydag aur wedi’i ailgylchu – bydd yr ansawdd bob amser yr un mor dda â phan gafodd ei gloddio gyntaf. Y peth gwych am aur yw ei fod yn adnewyddadwy felly dyw e ddim yn diraddio. Mae hyn yn golygu y gellir ei ailgylchu drosodd a throsodd heb golli ansawdd.

Felly pan fyddwch yn prynu darn o emwaith aur wedi’i ailgylchu s’dim rhaid i chi fyth meddwl ‘hmmm a yw hyn cystal ag aur ‘newydd?’ Oherwydd yr ateb yw ‘ie – bob tro’. Felly ry’ chi’n cael ansawdd a thawelwch meddwl mewn un, gan wybod bod eich darn aur yn edrych yn grêt ond ni chafodd ei gloddio o’r newydd.

Y cyfle i ailddefnyddio’r hyn sy’n golygu siwd gymaint i chi

Fel fi, ‘wy’n siŵr eich bod chi ‘di cael gemwaith gan perthnasau sy’ ‘di marw. Mae llawer o emwyr wrth eu bodd yn dweud y gallwch chi drosglwyddo eu gemwaith nhw i genedlaethau’r dyfodol, ond y gwir amdani yw, mae’n aml mor hen ffasiwn erbyn hynny fel bod neb am ei wisgo. Yna mae’n eistedd mewn drôr a byth yn gweld golau dydd eto, sy’n hollol depressing yn fy marn i. Dyna pam ‘wi wrth fy modd yn ail-ddylunio trysorau eich teulu i chi. Nid yn unig yw hi’n fath arall o ailgylchu metelau a gemau ond mae hefyd yn ffordd grêt o uwchgylchu – chi’n cael darn o emwaith wedi’i drawsnewid yn llwyr yn hytrach na darn odd jyst ddim at eich dant. Mae hefyd yn ffordd wych o gadw’ch anwyliaid yn agos atoch chi. Mae llawer o’m cleientiaid wedi etifeddu hen bandiau priodas a dim ond trwy ychwanegu ychydig o gemau, gallant gadw eu mamau neu eu mam-gu gyda nhw bob dydd, ac edrych yn chwaethus yn y broses.

Mae’n arafu’r broses prynnu

Y peth gorau am yr holl ailgylchu hyn yw ei fod yn golygu llai o wastraff. Os ydych chi ‘di bod yn darllen fy mlogiau ers amser, byddwch yn gwybod fy mod i’n angerddol am datblygu’r agwedd o ‘prynu llai, prynu’n well ‘tuag at fywyd. Gas gen i’r agwedd ‘frenzied’ sydd gennym tuag at brynnu, lle ry’ ni’n prynu cymaint o bethau, jyst er mwyn eu taflu unwaith bydd ffasiynau’n newid neu pan ry’ ni ‘di diflasu arno. Mae’n farus, mae’n wastraffus ac mae’n ddrwg i’r amgylchedd. Un o fy nghas bethe yw gemwaith ‘tat’ rhad. Yn union fel dillad rhad, dyw e ddim wedi’i greu i bara (felly ry’ ni’n prynu mwy yn y pen draw) ac mae’n diweddu yn y bin (neu falle siop elusen). Pan fyddwch yn dewis ailfodelu’ch trysrau teuluol, sy’n aml wedi cael eu gwneud o aur hyfryd 18 neu 22ct, gyda gemau gwych (rhai ar ffurf toriadau nad ydym yn gweld bellach – braf a phrin), ry’ chi’n cadw’r ansawdd ac yn lleihau gwastraff. Mae’n ‘no-brainer’ mewn gwirionedd, ond yw hi?

Tawelwch meddwl

Y gwir amdani yw ein bod ni i gyd yn hoffi teimlo’n dda am beth ry’ ni’n ei brynu, yn enwedig os ydyn ni’n teimlo nad yw’n cyfrannu at unrhyw niwed. Felly mae gwybod ein bod ni’n arafu defnydd, peidio â chymryd mwy o adnoddau o’r ddaear ac yn uwchgylchu metelau a gemau yn teimlo’n dda, ond yw?

Felly dyma pam ‘w i mor angerddol am ailgylchu ac uwchgylchu. Nid yn unig yw’r ansawdd union yr un fath â darn o emwaith wedi’i wneud o fetelau gwerthfawr ‘newydd sbon’, ond mae’n ddewis moesegol gwych. Felly os y’ chi’n caru’ch aur ac eisiau siopa’n foesegol, mae fy narnau aur yn dewis perffaith i chi. Ac os ydych chi am rhoi bywyd newydd i drysorau’ch teulu, byddwn i wrth fy modd yn gweithio bach o hud arnynt i’w troi’n rhywbeth byddwch chi byth eisiau tynnu bant. 

Os ydych chi wedi mwynhau blog yr wythnos hon, gwnewch yn siŵr ei rannu. Os hoffech chi glywed mwy gan Liri, dilynwch ni ar Facebook ac Instagram, neu ymunwch â’n VIPs lle byddwch chi’n derbyn cynigion arbennig, y golwg cyntaf ar gasgliadau, post am ddim a chymaint mwy.